|
Rhif y ddeiseb: P-06-1373 Teitl y ddeiseb: Dylid atal Llywodraeth Cymru rhag gwastraffu £4 miliwn ar ddatblygiad preifat “Skyline” ar Fynydd Cilfái, Abertawe. Geiriad y ddeiseb: Mae'r
cynlluniau ar gyfer skyline yn cynnwys preifateiddio man cyhoeddus
agored ar gyfer prosiect na ŵyr neb a fydd yn llwyddo ai
peidio. Bydd cyfranddalwyr y cwmni preifat hwn yn elwa ar y
chwistrelliad mawr hwn o arian, ond mae perygl iddo greu difrod
amgylcheddol mawr, a hynny heb unrhyw sicrwydd o lwyddiant y fenter
yn yr hirdymor. Trodd llygredd
gwenwynig a ddeilliodd o orffennol diwydiannol metel trwm Abertawe
ein bryniau’n dir diffaith, nes yn 70au’r ganrif
ddiwethaf, dechreuodd partneriaeth rhwng ein Cyngor a'r Brifysgol
ei drawsnewid yn raddol yn goetir pinwydd, oherwydd dyna’r
unig rywogaeth a allai dyfu yno. Dechreuodd y gymuned leol ac
ysgolion gyfrannu bryd hynny, ac mae hyn wedi parhau hyd heddiw
oherwydd mae grŵp gwirfoddol yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru i
ddad-ddofi’r coetir fel bod rhywogaethau a chreaduriaid
cynhenid bellach yn ffynnu. |
Mae'r ddeiseb yn ymwneud â chynigion gan Skyline Enterprises Limited (Skyline) i greu datblygiad hamdden newydd a fydd wedi'i leoli yng Nghyfleuster Parcio a Theithio Glandŵr gan ymestyn hyd at Fynydd Cilfái.
Mae Skyline yn disgrifio ei hun fel cwmni twristiaeth rhyngwladol sy’n darparu hwyl wirioneddol i gymunedau byd-eang. Gyda'i bencadlys yn Seland Newydd, mae gan Skyline safleoedd yn Queenstown a Rotorua (Seland Newydd), Calgary a Mont Tremblant (Canada), Sentosa (Singapore), Busan a Tongyeong (De Korea) a chyn bo hir, Kuala Lumpur (Malaysia).
Mae'r cynigion datblygu yn cynnwys sawl elfen gan gynnwys, car cebl gondola o Waith Copr Hafod Morfa, tair reid car llusg, gwifren wib a siglen awyr, llwybrau beicio mynydd newydd, llwybrau cerdded a mannau picnic.
Mewn erthygl ddiweddar ar Wales Online dywed llefarydd o Skyline y canlynol:
“Our proposals for Kilvey Hill celebrate the hill and its wildlife alongside providing a fun new attraction for the residents of Swansea and its visitors. We recognise the value and importance of the site in ecological terms and, for this reason, instructed Welsh consultancy firm, EDP, back in 2018, to start ecological survey work. That work has continued to date and has informed the preparation of our proposals. Critically, our objective is to enhance the overall biodiversity of the site and to allow for the better management of these in the long term through our involvement.
“If our application is successful, Skyline will be investing circa £34 million into the development of the site and we are already seeking local partners to assist with food and beverage retail at the proposed attraction and in the construction of the scheme. Local planning, environmental and engineering firms have already been appointed to develop the application proposals.
"Skyline has built recognised world class facilities like this across the globe in in New Zealand, Canada and Singapore. We believe Kilvey Hill is an excellent opportunity for our eighth site and we are committed to its sensitive development, as we have been with all our other sites. We held several public consultation events in March this year and community support was very strong. We look forward to further engagement with the people of Swansea as the planning application progresses.”
Daw ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Mae’r ymateb yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu £4 miliwn o gymorth ariannol ar gyfer y fenter gyffredinol gwerth £34 miliwn, y rhagwelir y bydd yn creu “hyd at 100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn uniongyrchol”. Mae ymateb gan Lywodraeth Cymru i Gais Rhyddid Gwybodaeth, dyddiedig Mehefin 2023, yn nodi bod £1 miliwn o gyfanswm y pecyn cymorth ariannol gwerth £4 miliwn yn ad-daladwy.
Archwiliwyd y buddsoddiad arfaethedig yn Skyline gan Fwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru cyn i'r penderfyniad gael ei wneud gan Weinidogion i gefnogi'r prosiect. Mae Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru yn rhoi cyngor i Weinidog yr Economi ar faterion sy'n ymwneud ag economi Cymru. Rhan ganolog o rôl y Bwrdd Cynghorol yw rhoi cyngor ar brosiectau unigol sy'n gofyn am gymorth ariannol o dros £1 miliwn o'r cynlluniau perthnasol o fewn Cronfa Dyfodol yr Economi.
Yn yr ymateb, mae'r Dirprwy Weinidog hefyd yn mynd i'r afael â'r ystyriaethau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect:
Gallaf gadarnhau ei bod yn ofynnol i'r awdurdod cynllunio lleol ystyried y cais yn unol â'r polisïau cynllunio cenedlaethol, sy'n cynnwys ystyriaethau amgylcheddol. Mae Skyline wedi cwblhau arolygon topograffig, amgylcheddol ac ecolegol cyn gwneud cais am gyllid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi llwybrau clir a fframweithiau polisi ym Mholisi Cynllunio Cymru (PPW) 11 ar gyfer y system gynllunio, er mwyn ymateb i dueddiadau a chylchoedd amgylcheddol negyddol a sicrhau canlyniadau cynaliadwy gwell. Mae PPW11 yn nodi fframwaith cryf ar gyfer diogelu coed, coetiroedd a gwrychoedd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr sicrhau bod plannu cydbwyso'n digwydd pan gaiff coetir neu goed eu tynnu fel rhan o gynllun arfaethedig. Mae hyn yn ogystal â'r amddiffyniad a roddir gan Orchmynion Diogelu Coed a weinyddir gan awdurdodau lleol hefyd.
Mae Skyline wedi ennill gwobr gan Seland Newydd am ei arferion cynaliadwy, sef Gwobr Aur Qualmark.
Bydd adeiladau newydd yn cyrraedd safon ragorol BREEAM lle bo angen. Fel rhag amod unrhyw gymorth, mae'n ofynnol i Skyline gynnal archwiliad annibynnol o'i berfformiad amgylcheddol yn Abertawe, drwy gynllun achredu allanol fel yr Agoriad Gwyrdd neu gynllun cyfwerth.
I grynhoi, nod ein dull buddsoddi ar gyfer prosiect Skyline yw cydbwyso ystyriaethau amgylcheddol ac economaidd y prosiect a sicrhau bod ein cyllid yn gysylltiedig â thargedau clir sy'n cael eu cyflawni.
Mae datblygiad arfaethedig Skyline yn sefyll o fewn etholaeth Dwyrain Abertawe Mike Hedges AS. Dyfynnir ef mewn erthygl ar wefan Nation Cymru o fis Ebrill eleni yn dweud y canlynol:
“£4 million is an awful lot to pay for 100 jobs – that’s £40,000 per job, which are likely to be low paid and, in the main, seasonal.
“Is it a good use of public money? I would say no.
“If you’ve got that money to invest, I’d much prefer to see it being invested in ITC (information and computer technology) and life science companies who provide high value jobs and will boost the economy.”
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |